Yn y byd seiclo mae'r term Grand Tour yn cyfeirio at un o dair prif ras aml-gymalog y byd seiclo proffesiynol sef y Tour de France, y Giro d'Italia a'r Vuelta a España.
Mae'r tair ras yn debyg gan eu bod yn cael eu cynnal dros dair wythnos gyda chymalau dyddiol. Mae ganddynt statws arbennig yn yr UCI gan fod mwy o bwyntiau ar gael i'w hennill ar Gylchdaith Byd yr UCI yn y Grand Tours nac mewn unrhyw ras arall[1] a dyma'r unig rasys aml-gymalog sydd yn cael parhau yn hirach na 14 diwrnod[2].
Y Tour de France ydy'r hynaf o'r tair ras a'r un fwyaf mawreddog[1] gyda'r Giro d'Italia yn ail bwysicaf. Y Tour, y Giro a Phencampwriaethau Seiclo Ffordd y Byd ydy Coron Driphlyg y byd beicio[3][4][5].
|dyddoad=
ignored (help)
|dyddiad=
ignored (help)